Mae perchennog ffatri gaws ar Ynys Môn wedi mynnu na fydd unrhyw swyddi yn cael eu peryglu wrth iddyn nhw sefydlu ffatri newydd yn Iwerddon.
Ar hyn o bryd mae gan Glanbia ddau safle yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys un ym Magheralin, Gogledd Iwerddon ac un arall yn Llangefni.
Ond, â Brexit yn prysur agosáu, mae’r cwmni bellach wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ffatri newydd yng Ngweriniaeth Iwerddon – gwlad sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y safle £115m hwn yn agor yn Port Laoise yn 2020, a’n cyflogi 78 o bobol.
 hufenfa yn cau yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, ar ddiwedd y mis, mae peth pryder wedi bod am ddyfodol y diwydiant yng ngogledd Cymru, a’r posibiliad o adleoli swyddi i Ewrop.
Ond, wrth siarad â golwg360, mae llefarydd ar ran Glanbia wedi wfftio’r pryderon hynny.
Testun gofid?
Mae’r llefarydd yn mynnu bod y ffatrïoedd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn gwneud yn “dda”, a bod swyddi’r ffatrïoedd yn ddiogel.
Ac mae’n ategu bod Glanbia wrthi’n ceisio cael gafael ar ragor o ffermwyr Cymreig, i ddarparu llaeth iddyn nhw – llaeth Cymreig sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu mozzarella’r ffatri.
Gan eu bod yn gwerthu caws i 30 gwlad ledled Ewrop, mae’r cwmni yn teimlo bod sefydlu ffatri o fewn yr undeb yn debygol o’u diogelu rhag “rhwystrau fasnach posib yn y dyfodol”.
“Cam positif”
“Mae Portlaoise yn gam positif i Gaws Glanbia,” meddai Paul Vernon, Prif Swyddog Gweithredol Caws Glanbia wrth golwg360.
“Rydym wedi sôn am sefydlu trydydd safle cynhyrchu ers sawl blynedd. Mae ein dau safle yn Llangefni a Magheralin yn cynhyrchu cymaint ag y medran nhw, a dydyn nhw methu cynhyrchu rhagor.
“Gan fod y busnes yn parhau i dyfu, dyma’r cyfnod iawn i fuddsoddi. Mae ein safleoedd presennol yn bwysig iawn i’n busnes, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu caws i gwsmeriaid y farchnad yn y Deyrnas Unedig.”