Mae’r profiad o deimlo’n unig ac ynysig mewn cymunedau gwledig yn mynd yn “broblem fwyfwy difrifol” mewn cymunedau gwledig, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Yn ystod ei ymweliad â’r Sioe Fawr heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 24), fe fydd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud bod mynd i’r afael ag unigrwydd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Daw hyn wrth i Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer y ddwy flynedd ddiwetha’ ddangos bod tua 17% o boblogaeth Cymru, sef tua 440,000, wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig.
Mae’r broblem hon, meddai Llywodraeth Cymru, yn enwedig o wir mewn cymunedau gwledig, gyda bron 20% o’r boblogaeth yn byw mewn cymunedau o lai na 1,500 o bobol.
Trafod â ffermwyr
Wrth ymweld â Maes y Sioe yn Llanelwedd, fe fydd Huw Irranca-Davies yn cynnal trafodaethau gyda sefydliadau gwledig er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad yng nghymunedau cefn gwlad.
Fe fydd y trafodaethau wedyn yn rhan o strategaeth a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.
“Sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl”
“Rydyn ni’n awyddus i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl i bobol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ein cymunedau ffermio a gwledig,” meddai Huw Irranca-Davies.
“Dyna pam mae mynd i’r afael â’r broblem hon yn un o flaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
“Dw i wedi dod i’r Sioe heddiw i wrando ar y rheiny sy’n byw ac yn gweithio yn y Gymru wledig, i glywed am eu profiadau ac i weld sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon.”