Mae Gogledd Corea wedi cychwyn dad-gomisiynu un o’i phrif safle lansio rocedi, yn ôl grŵp ymchwil o’r Unol Daleithiau.
Mae’r gweithgaredd yn awgrymu bod Gogledd Corea yn cychwyn ar y gwaith o gyflawni un o’r addewidion a wnaeth arweinydd y wlad, Kim Jong Un, i Donald Trump mwn uwchgynhadledd ddechrau’r mis diwetha’.
Mae swyddog o swyddfa arlywyddol De Corea yn dweud eu bod nhw wedi sylwi ar weithgaredd yn safle lansio Sohae, ond ni wnaethon nhw gynnig rhagor o wybodaeth.
Yn ôl y wefan 38 North, sy’n cael ei redeg gan ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, mae lluniau lloeren yn dangos bod Gogledd Corea yn dad-gomisiynu rhannau o’r safle.
Ond er bod y swyddog o Dde Corea yn dweud y gall gweithgaredd ar y safle gael “effaith bositif”, mae arbenigwyr yn dweud nad yw hyn yn gwanhau gallu milwrol Gogledd Corea.
Mae angen dadgomisiynu’r safle gyfan er mwyn i hynny digwydd, medden nhw.