Ryland Teifi
Tri mis ers iddo symud gyda’i deulu i fyw yn Iwerddon, mae’r actor a chanwr poblogaidd Ryland Teifi yn dychwelyd i Gymru i berfformio gyda band newydd o’r Ynys Werdd.

Mae wedi penderfynu dod â’r grŵp Gwyddelig, Mendocion gydag e’ i wneud taith o dri lleoliad rhwng 30 Medi a 2 Hydref.

Mae Ryland Teifi’n adnabyddus fel actor ar raglenni fel Pen Talar, Caerdydd a Phobol y Cwm ond mae hefyd yn gerddor dawnus ac wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru yn y gorffennol.

Teithio yn yr Ynys Werdd

Wrth siarad â Golwg360 roeddRyland Teifi’n cyfaddef ei fod yn “gweld ishe Cymru ar brydie”, ond mae wedi bod yn brysur ers symud i’r Ynys Werdd.

Mae wedi bod yn teithio gyda Hugh O’Carrol ac Evan Grace o’r grŵp Mendocino yn un peth.

Gan ei fod wedi mwynhau’r profiad gymaint, mae wedi penderfynu dod â Mendocino gydag e’ i Gymru er mwyn hyrwyddo ei sengl newydd ‘Brethyn Gwlân’ yn ogystal â’r albwm newydd Last of the Old Men.

“Rwy’n edrych ymlaen i ddod a’r bois yma i Gymru” meddai Ryland Teifi.

“Rwyf wedi cal amser gwych yn cydweithio gyda nhw dros y misoedd diwetha’ ac wedi perfformio gyda nhw mewn gwylie fel Y Dunmore East Bluegrass Festival, Story Telling South East, a lleoliade blaenllaw yn Cork, Dungarvan, Carrick-onSuir a Lismore.

“ Mae ein band yn gyfuniad o gwerin/gwlad ac mi fyddwn yn ymweld a rhai o leoliade gore Cymru ar gyfer cerddoriaeth o’i fath.”

Taith tri lleoliad

Bydd Ryland Teifi a Mendocino yn ymweld â thri lleoliad yn Aberteifi, Dolgellau a Phentyrch ger Caerdydd.

“Mae Hugh ac Evan yn gerddorion a sgrifennwyr gwych ac wy’n sicr fyddan nhw’n dwli arnynt yng Nghymru!”

Mae eisoes wedi lansio un sengl newydd sef ‘The Deise Day’ gyda’i frawd yng nghyfraith Finbarr Clancy o’r High Kings, sydd hefyd yn cynnwys llais ei dad yng nghyfraith, y diweddar Bobby Clancy o’r grŵp byd enwog, The Clancy Brothers.

Fe gafodd ‘The Deise Day’ ei ryddhau yng nghanol mis Gorffennaf ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw ar donfeddi radio Iwerddon.

Manylion y daith:

30 Medi – Rhosygilwen, ger Aberteifi

1 Hydref – Tŷ Siamas, Dolgellau

2 Hydref – Acapela, Pentyrch ger Caerdydd