Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion Amaeth, Lesley Grifiths, wedi dweud y bydd y Sioe Fawr eleni yn un “bwysig iawn” wrth drafod sut y bydd ffermwyr Cymru yn derbyn cymorth yn y dyfodol.
Daw’r cyhoeddiad hwn ar ddechrau’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, sef yr un olaf cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae arolwg gan NFU Cymru yn dangos bod 63% o brynwyr Cymru yn pryderu y bydd cytundebau masnachol yn effeithio ar allu ffermwyr Cymru i allforio eu cynnyrch.
Roedd 63% wedyn yn pryderu am yr effaith y bydd mewnforion o wledydd sydd â safonau lles anifeiliaid isel yn ei gael ar gynnyrch o Gymru, tra bo 54% yn ofni sut y bydd Brexit yn effeithio ar allu’r Deyrnas Unedig i gynhyrchu bwyd ar gyfer ei marchnadoedd ei hun.
Wythnos o drafod
Dros y dyddiau nesa’, fe fydd yr Ysgrifennydd dros Faterion Amaeth yn mynd i dros ddeugain o ddigwyddiadau ar Faes y Sioe, gan wrando ar sylwadau ffermwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiant amaeth a choedwigaeth.
Bydd hyn yn bennaf er mwyn trafod y rhaglen Rheoli Tir newydd y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei chyflwyno i ddisodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (PAC).
Fe fydd Lesley Griffiths hefyd yn cyhoeddi gwerth £9.2m o gyllid i gefnogi Menter Strategol Hybu Cig Cymru, sef y ‘Rhaglen Datblygu Cig Coch’, ynghyd â chyllid gwerth £6.4m ar gyfer dau brosiect yn y sector llaeth.
Ddydd Mawrth wedyn, fe fydd hi’n cyfarfod â Michael Gove, sef Ysgrifennydd Llywodraeth Prydain dros Faterion Gwledig, a hynny er mwyn cael eglurder ar frys ynghylch cyllid ar gyfer ffermwyr Cymru yn dilyn Brexit.
“Cadw at yr addewidion”
“Rhaid iddyn nhw gadw at yr addewidion a wnaed yn ystod y refferendwm na fyddai Cymru’n colli ceiniog am fod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Lesley Griffiths wrth edrych ymlaen at ei chyfarfod â Michael Gove.
“Yn anffodus, nid yw’r sefyllfa yn eglur o hyd, a hynny ddwy flynedd yn ddiweddarach.
“Byddaf yn codi’r mater hwn â Michael Gove unwaith eto pan fyddai’n cyfarfod ag ef yn y Sioe ddydd Mawrth.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau ar frys a fydd Cymru’n cynnal ei chyfran bresennol o gyllid.
“Byddai hynny’n gwbl deg ac yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant.”