Fe gafodd un o denoriaid amlyca’ Cymru y gwaith o ganu cân y coroni i’w wraig ei hun mewn seremoni yn y Drenewydd neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 20).
Karina Wyn Dafis oedd enillydd y Goron yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Hafren 2018 – ac Aled Wyn Davies o Bentre Mawr, Llanbrynmair, oedd yn canu i’w llongyfarch.
Dyma’r trydydd tro i Karina Dafis ennill coron Eisteddfod Powys – gwobr arian o waith John Price, Machynlleth – ac mae hi hefyd yn gyn-enillydd cadair Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Y tro hwn, roedd wedi cyfansoddi casgliad o ryddiaith ar y tesun ‘Afon’. Y beirniad oedd Manon Steffan Ros.
Roedd Aled Wyn Davies yn falch o rannu hanes llwyddiant ei wraig ar ei dudalen Facebook yn dilyn y seremoni yn Theatr Hafren:
Llongyfarchiade mawr i Karina heno am ennill y goron yn Eisteddfod Powys yn y Drenewydd. Ei thrydedd Coron yn yr…
Posted by Aled Wyn Davies on Friday, 20 July 2018