Mae disgwyl i hyd at 2,000 o bobol dyrru i Sesiwn Fawr Dolgellau tros y penwythnos.
Mae’r ŵyl werin wedi cael ei chynnal yn flynyddol yn Nolgellau ers ei hailsefydlu yn 2011.
Eleni yw’r ail flwyddyn yn olynu i’r holl docynnau ar gyfer un o lwyfannau’r ŵyl gael eu gwerthu, gyda disgwyl i 500 o bobol fod yn bresennol o flaen llwyfan Gwesty’r Ship ynghanol y dre’ heno a nos yfory.
O’r 11 llwyfan arall ar hyd y dre’ wedyn, mae dau lwyfan newydd, gydag un yn y clwb rygbi a’r llall yn y Theatr Fach.
Ac fe fydd Anweledig, Ail Symudiad a’r Welsh Whisperer yn perfformio.
Bydd bandiau gwerin o wahanol rannau o’r byd yno hefyd, gan gynnwys rhai o fandiau gwerin o Beriw, yr Alban ac Iwerddon.
Mae gweithgareddau eraill a fydd yn cael eu cynnal ledled y dre’ wedyn yn cynnwys sesiynau comedi, sesiynau llenyddol a rhai ar gyfer y plant.
“Gŵyl werin Gymreig”
“Yn ei hanfod, gŵyl werin ydy hi,” meddai Branwen Rhys Dafydd, un o drefnwyr y digwyddiad, wrth golwg360.
“Rydan ni’n hyderus iawn ein bod ni’n cynnal lot o’r sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae’n Gymreig iawn ei naws a hefyd yn werinol.
“A dyna beth sydd yn ein gwneud ychydig bach yn wahanol i wyliau eraill, dw i’n meddwl.”
“Codi proffil Dolgellau”
Yn ôl perchennog siop Gwin Dylanwad, Llinos Rowlands, mae’r Sesiwn Fawr yn “codi proffil” tre’ Dolgellau.
Mi fydd rhai digwyddiadau’r penwythnos yn digwydd o fewn ac o flaen y siop ei hun, ac mae’r perchennog yn disgwyl y daw 300 o bobol drwy’r drysau.
“Mae’r budd trwy’r flwyddyn,” meddai Llinos Rowlands wrth golwg360.
“Mae pobol yn dod i adnabod Dolgellau – mae’r enw Dolgellau yn mynd allan.
“Mae’r teledu yn darlledu oddi yma oherwydd y Sesiwn Fawr, ac mae pobol ddieithr yn dod yma ac yn gweld bod awyrgylch braf yma.”