Mae’r canwr o Bontypridd, Tom Jones, wedi gorfod gohirio dau gyngerdd y penwythnos hwn, a hynny oherwydd salwch.

Mae’r Cymro 78 oed ar hyn o bryd yn treulio cyfnod yn yr ysbyty, lle mae’n dioddef o haint bacteriol.

Roedd disgwyl iddo berfformio yn EmslandArena yn yr Almaen nos Sadwrn, ac yna yng Nghastell Belvour yn Swydd Gaerlŷr ar y nos Sul.

Ond mae’r cyngherddau hynny bellach wedi’u gohirio, gyda Tom Jones yn “ymddiheuro” i’w gefnogwyr.

Mewn datganiad ar y wefan gymdeithasol Twitter, fe ddywedodd llefarydd ar ran y canwr ei fod mewn “hwyliau da”, a’i fod yn “benderfynol” o ddychwelyd i’r llwyfan.

Daw’r cyhoeddiad hwn ychydig ddiwrnodau ar ôl i Tom Jones gyhoeddi na fyddai’n gallu perfformio mewn cyngherddau ym Mharc Stansted yn Chichester ddydd Mercher, a chwrs rasio Caer ddydd Iau.

Mae’r gyngerdd yng Nghaer wedi’i aildrefnu ar gyfer Awst 12, ac mae Tom Jones wedi diolch i bawb am eu “cefnogaeth a’u dealltwriaeth”.