Mae ffensys diogelwch bellach wedi’u codi yn ardal Llanfair-ym-muallt a Llanelwedd, fel rhan o fesurau diogelwch newydd ar gyfer y Sioe Fawr.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal eleni rhwng Gorffennaf 23 a Gorffennaf 26, a daw’r mesurau diweddara’ yma yn sgil marwolaeth ffermwr ifanc adeg y sioe y llynedd.
Fe ddiflannodd James Corfield, 19, ar ddiwrnod cynta’ sioe 2017, a chafodd ei gorff ei ddarganfod yn afon Gwy bum niwrnod yn ddiweddarach.
Yn sgil hyn, cafodd grŵp gweithredu diogelwch ei sefydlu, ac aeth y grŵp yma ati i argymell cyfres o fesurau diogelwch.
Bydd y rhain oll mewn grym yn ystod y sioe.
Mae’r mesurau’n cynnwys:
- Creu ‘Llwybr Gwyrdd’ o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe, Fferm Penmaenau a’r Pentref Ieuenctid
- Canolfan les newydd yn y dre ar safle’r hen Ganolfan Groeso
- Bugeiliaid stryd yn gweithio yn y dref cyn ac yn ystod pedwar diwrnod y sioe
- Gosod ffens ddiogelwch newydd rhwng ardal y Gro ac afon Gwy
- Trefniadau traffig a thacsis
- Mwy o doiledau cyhoeddus
- Camerâu CCTV yn y dre