Mae cyfarwyddwr dawns o Geredigion sydd wedi byw yn Llundain ers bron i bum mlynedd yn dweud bod y ddinas yn mynd yn “llai diogel” i fyw ynddi.
Er bod Meilir Ioan yn dweud nad yw e ei hun wedi cael unrhyw fygythion oddi wrth bobol ar y stryd, mae’n gwybod am ffrindiau sydd wedi cael y profiad.
Mae e hefyd, meddai wedyn, wedi clywed am rai achosion o drywanu, a’r rheiny ar “stepen drws” ei gartre’ yn ne-ddwyrain Llundain.
“Dw i’n byw yn Greenwich, sy’n ardal eithaf neis o Lunden,” meddai wrth golwg360. “Mae’n cael ei adnabod yn ardal eitha’ cyfoethog.
“Ond yn ddiweddar yn Greenwich mae knife crime wedi codi. Mae yna ddou ddigwyddiad dw i’n gwybod amdanyn nhw yn ddiweddar sydd wedi digwydd yn Greenwich, sydd reit ar fy stepen drws i, sy’n eitha’ brawychus.
“Yn yr holl amser dw i wedi byw yn Greenwich, sa’ i wedi clywed dim fel’na yn digwydd. Ond yn ddiweddar, mae fel bod e’n mynd yn llai diogel i fyw yna.
“Rydyn ni’n clywed mwy a mwy am bethe fel yna yn digwydd nawr, sy’n bach o sioc.”
‘Meddwl mwy am ddiogelwch’
Daw Meilir Ioan yn wreiddiol o ardal Caerwedros, ac mae’n dweud bod y symud i Lundain ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn mynychu’r brifysgol yno wedi bod yn “newid byd mawr iawn” iddo.
“Ro’n i’n gorfod meddwl wedyn, dw i’n credu, am ddiogelwch,” meddai.
“Pan oeddwn i yng nghefen gwlad, yng Ngheredigion, doeddwn i ddim rili yn meddwl am bethe fel’na – doeddwn i ddim yn ystyried bod pethe fel’na yn gallu digwydd.
“Ond pan ydw i’n byw yn Llundain, dw i’n gorfod meddwl eilwaith os ydw i mo’yn cerdded i lawr y stryd yma yn y tywyllwch a pha ffordd yw’r ore i fi fynd gytre.
“Dw i’n gorfod meddwl mwy am y stwff yna, yn naturiol, achos bo fi’n byw mewn dinas lle mae’r pethe yma yn tueddu o ddigwydd.”