Mae lefel y gefnogaeth i ddigwyddiad ‘Taith Steffan Lewis’ wedi bod yn “anhygoel”, yn ôl un o’r trefnwyr.
Yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 14), fe fydd ffrindiau a theulu’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Steffan Lewis, yn ymlwybro trwy’r Cymoedd er mwyn codi arian tuag at ganolfan ganser.
Yn ôl Rhuanedd Richards, un o drefnwyr y digwyddiad, mae pobol “o Gymru gyfan” – nyrsys, aelodau’r heddlu, pobol â chanser – wedi cysylltu â hi er mwyn bod yn rhan o’r daith.
Ac mae’n nodi bod haeldioni y bobol yma wedi bod yn “sioc”.
“Maen nhw wedi bod mor gefnogol reit o’r cychwyn cynta’,” meddai Rhuanedd Richards wrth golwg360.
“Gwnaethon ni rhoi’r hysbyseb yn gyntaf i Aelodau Cynulliad gan feddwl y byddai ambell un yn ymuno.
“Ond mae’n anhygoel faint o bobol wnaeth gysylltu yn syth bin, a dweud ‘plîs rhowch ein henwau i lawr’ – o bob un blaid. Mae Aelodau Seneddol yn dod hefyd.
“Dw i ffaelu credu faint o gefnogaeth r’yn ni wedi cael.”
“Byddin o deulu a ffrindiau”
Chwaer fach yr Aelod Cynulliad, Nia Davies, 17, a ddaeth at Rhuanedd Richards gyda’r syniad o gynnal digwyddiad i godi arian.
Ac mae’r trefnydd yn canmol y ferch, a’r “fyddin o deulu a ffrindiau”, am ddangos cymaint o gefnogaeth a brwdfrydedd.
“Mae [Nia], ei mam, a’u teulu i gyd wedi bod trwy gyfnod mor mor anodd, dros yr wyth i naw mis diwetha’ ers i Steffan gael y diagnosis.
“Ac wrth gwrs, mae Nia yn ifanc iawn ei hun, a’n gorfod wynebu’r holl heriau mae rhywun sy’n 17 oed yn gorfod wynebu – arholiadau ysgol, penderfyniadau coleg, ac yn y blaen.
“Ond, trwy’r cyfan, mae hi wedi rhoi ei brawd yn gyntaf.”
“Emosiynol”
Bydd y cerddwyr yn ymlwybro am ddeg milltir rhwng Cwmcarn a’r Coed Duon – i’r gogledd o Gaerffili – ac mi fydd rhyw 170 o bobol yn cymryd rhan.
Mae Rhuanedd Richards yn cydnabod bydd y daith yn “heriol” yn gorfforol, a’n “emosiynol”; a’n nodi ei bod yn edrych ymlaen at y parti a fydd yn cael ei gynnal ar y diwedd.
Er nad oes disgwyl i Steffan Lewis gymryd rhan, mae’n debygol y bydd ef yn cyfarch y cerddwyr cyn iddyn nhw ddechrau ar y daith.
Gallwch weld fideo o Rhuanedd Richards yn siarad am y digwyddiad isod…