Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynnig o godiad cyflog i staff y gwasanaeth yng Nghymru.
Mae’r Llywodraeth yn mynnu bod y cynnig yn un cystal – a gwell mewn rhai achosion – na’r cytundeb cyflog newydd ar gyfer y GIG yn Lloegr.
Mae’r cynnig cyflog yn cynnwys:
- mynd y tu hwnt i’r ymrwymiad i argymhellion y Living Wage Foundation drwy gyflwyno cyfradd o £17,460 o Ebrill 1, 2018 ymlaen fel isafswm ar gyfer cyfradd cyflog sylfaenol; a chodi cyflog cychwynnol isaf i £18,005 yn 2020/2021;
- buddsoddi mewn cyflogau cychwynnol uwch i staff ym mhob band cyflog drwy ddiwygio’r system gyflogau er mwyn dileu pwyntiau cyflog sy’n gorgyffwrdd;
- gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg am y tair blynedd nesaf i staff sydd ar frig eu bandiau cyflog;
- gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg a datblygiad cyflog cyflymach am y tair blynedd nesaf i staff nad ydyn nhw eto ar frig eu bandiau cyflog.
Y cam nesaf yw i’r undebau drafod a chymeradwyo’r cynigion drwy bleidlais o’r aelodau.
Pen-blwydd hapus
“Wrth i ni ddathlu 70fed pen-blwydd y GIG yng Nghymru, mae’n briodol ein bod yn cydnabod y rhai sydd wedi gwneud y gwasanaeth yr hyn ydyw heddiw,” meddai Vaughan Gething.
“Ni fyddai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn gallu gweithredu heb sgiliau, ymroddiad a gwaith caled ei staff.
“Ar ôl blynyddoedd o gyni o du Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol y tu hwnt i’r hyn a dderbyniwyd yn sgil y codiad cyflog yn Lloegr.
“Mae hyn yn ein galluogi i wneud cynnig sydd nid yn unig yn deg i’r staff ac i’r trethdalwyr, ond a fydd hefyd yn arwain at well Gwasanaeth Iechyd i Gymru.”