Doedd rhai o drigolion Colombia “ddim yn deall” pam nad oedd cerddor o Ddyffryn Ogwen yn cefnogi Lloegr yng Nghwpan y Byd – wrth iddo wylio’r gêm fawr gyda nhw neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 3).
Dyna ddywed Cai O’Marah wrth golwg360 heddiw, wrth i’r wlad lle mae’n teithio ynddi ar hyn o bryd baratoi i groesawu eu chwaraewyr aflwyddiannus gartref o Gwpan y Byd yn Rwsia.
Postiodd y cerddor, sy’n aelod o’r band Radio Rhydd, lun ohono’i hun ar ei broffil Facebook yn gwisgo crys Colombia, ac yntau wedi cyrraedd y wlad ers diwedd mis Mai.
Fe enillodd Lloegr ar ôl ciciau o’r smotyn i anfon Colombia adre’ o’r gystadleuaeth yn rownd yr 16 olaf.
O ddathlu i dristwch
“Nes i wylio’r gêm mewn bar mewn tref o’r enw Acacias,” meddai Cai O’Marah wrth golwg360.
“Roedd hi’n drist erbyn y diwedd, ond mi oeddan nhw’n dathlu cyrraedd penalties fel oeddan nhw wedi curo’n barod!
“Oeddan nhw’n neidio i fyny ac i lawr, yn chwifio poteli llawn cwrw rownd topiau’u pennau, a chwythu chwiban, ac yn y blaen.”
Ac mae’n dweud iddo gael ymateb da wrth wisgo crys Colombia ar gyfer y gêm.
“Ges i sawl un yn bîpian arna’i yn eu ceir fel o’n i’n cerdded heibio. Ac un neu ddau ddim yn deall pam o’n i ddim yn cefnogi Lloegr!”
Dysgu’r trigolion lleol am Gymru
Ond i Cai O’Marah, sy’n dysgu Saesneg i drigolion Colombia tra ei fod yntau’n dysgu ychydig o Sbaeneg – roedd yn gyfle hefyd i’w haddysgu nhw am Gymru.
“Geshi sgwrs neithiwr (drwy gyfieithydd) ac mi oedd o’n holi pam ydw i mor groes i’r Goron Brydeinig a ddim yn cefnogi tîm pêl-droed Lloegr.
“Neshi sôn wrtho am ychydig o hanes Cymru – a Phrydain – a sôn am y ‘Welsh Not’ a’r ymdrechion i chwalu iaith a diwylliant Cymru. A sôn am hanes Tryweryn hefyd.
“Wnaeth o ddeud, ‘entiendo, entiendo’ (Dw i’n deall) yn syth wedyn.”
Fe fydd Cai O’Marah yn aros yn Colombia tan Orffennaf 23, cyn hedfan i’r Amazon ar gyfer rhan nesaf ei daith.