Mae cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dweud bod yna gynnydd wedi bod yn nifer y cystadleuwyr eleni, a hynny er gwaetha’ Brexit.
Mae’r ŵyl ryngwladol flynyddol yn nhre’ Llangollen wedi cychwyn heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 3), a thrwy gydol yr wythnos mi fydd yn llwyfan i dros fil o gystadleuwyr o wledydd ledled y byd.
Yn ôl Dr Rhys Davies, cadeirydd ar yr ŵyl, mae “tua 15%” yn fwy o gystadleuwyr eleni, gyda chystadleuaeth y corau meibion yn enwedig yn profi’n boblogaidd.
Ond er bod hyn yn dangos nad yw Brexit wedi effeithio ar yr ŵyl, meddai, mae’n dweud nad yw’n “gwybod yr ateb” ynglŷn â beth fydd y sefyllfa y flwyddyn nesa’.
“Cyn i ni gael yr European Community yn y 1970au, roedd lot o bobol yn dod yma o Ewrop, felly dw i’n gobeithio y bydd popeth yn oreit ar ôl Brexit, a bydd pobol yn gallu dod o Ewrop,” meddai wrth golwg360.
Problem y visa
Mae Dr Rhys Davies yn dweud ymhellach mai’r broblem fwya’ sy’n wynebu cystadleuwyr ar hyn o bryd yw sicrhau visa i deithio, gyda’r broblem honno yn effeithio ar grwpiau yn fwy nag unigolion.
“Y broblem rydym ni wedi’i gael, ac mae’n parhau, yw problem efo pobol o’r India a’r Affrica,” meddai wedyn.
“Mae visa application jyst am un person, felly mae grwpiau, yn enwedig y dawnswyr, yn cael problem i ddod, gyda rhai ohonyn nhw ddim yn gael cael visas.”
Ond mae cadeirydd yr Eisteddfod yn ychwanegu na ddylai’r broblem ddifetha’r ŵyl, a bod angen ceisio annog cymunedau ethnig o wledydd Prydain i ddod i Langollen.
“Mae lot o’r bobol sy’n dod o overseas yn byw yn yr UK rŵan, felly rydan ni eisiau denu grwpiau o Lundain, o Gaerdydd, y Portugees, y Poles a’r Somalis.
“Mae lot o bobol yn byw yn y Deyrnas Unedig, a does dim rhaid iddyn nhw gael visas, wrth gwrs.”