Mae’r chwilio wedi dechrau am ddau unigolyn i fyw a gweithio fel wardeniaid Ynys Enlli.
Mae’r warden presennol, Siân Stacey wedi penderfynu gadael ei swydd yn yr hydref, a hynny ar ôl tair blynedd yn y gwaith, a bydd ei phartner Mark Carter yn gadael yr ynys gyda hi.
Maen nhw wedi bod yn byw mewn tŷ gyda dwy ystafell wely ar yr ynys yn rhinwedd eu swyddi.
Pan gawson nhw eu penodi, roedd 300 o ymgeiswyr ar gyfer y swyddi, a’r rheiny o bob cwr o’r byd.
Caiff y swyddi Warden a Warden Cynorthwyol eu disgrifio fel “cyfle unwaith mewn bywyd i reoli Enlli, ynys anghysbell a Gwarchodfa Natur Genedlaethol”.
Ymhlith y dyletswyddau mae cadw a chynnal 10 o dai newydd yr ynys, sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau eu gwyliau, recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a bod yn rhan weithgar o’r gymuned.
Mae gallu siarad Cymraeg yn rhan hanfodol o swydd y warden.
‘Brwdfrydedd a gwaith dygn’
Mae’r swydd hon yn medru bod yn hynod o heriol,” meddai Siân Stacey, “ac mae angen llawer o nerth ac angerdd, ond dyma’r gwaith mwyaf gwerth chweil ydw i wedi’i wneud erioed.
“Mae hi wedi bod yn wych bod yn rhan o gymuned yr ynys, a gweithio gyda chymorth gwirfoddolwyr i sicrhau bod Enlli yn parhau i fod yn lle unigryw, tra’n gwella’r profiad i westeion ac ymwelwyr.
“Byddaf yn colli mynd i gysgu’n gwrando ar gri’r adar drycin Manaw uwchben a deffro i udo’r morloi ar yr arfordir.”