Fe fydd mwy na £1m yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun ar gyfer marchnata bwyd môr o Gymru yn rhyngwladol yn cyfnod wedi Brexit, yn ôl Lywodraeth Cymru.
Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, yn addo y bydd Prosiect Datblygu’r Farchnad Bwyd Môr yn derbyn cymorth am y pedair blynedd nesa’.
Nod y cynllun, a gafodd ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Menter a Busnes a’r cwmni Seafish, yw datblygu’r farchnad ar gyfer bwyd môr o Gymru a gafodd ei ddal a’i brosesu yn lleol.
Bydd y cynllun hefyd yn helpu busnesau bwyd môr i:
- roi gwerth i fwyd môr;
- deall anghenion y farchnad;
- gwella’r arbenigedd o ran marchnata yn y sector;
- annog llongau i gyrraedd safon Cynllun Pysgota Cyfrifol.
Mae disgwyl i’r prosiect roi cymorth i 60 o fusnesau yng Nghymru, ac ym mis Medi, mi fydd yn mynd ar daith fasnach i Hong Kong, er mwyn arddangos bwyd môr gorau Cymru yn nigwyddiad Expo Bwyd Môr Asia 2018.
Heriau Brexit
“Bydd Brexit yn cyflwyno heriau yn ogystal â chyfleoedd i’r diwydiant pysgodfeydd,” meddai Lesley Griffiths.
“Fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i helpu’r diwydiant baratoi i wynebu’r heriau hyn a’i helpu i addasu ar gyfer byd ar ôl Brexit.”