Fe all codiad yn lefel y môr gostio tua £10trn yn flynyddol i’r byd erbyn diwedd y ganrif, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl ymchwil newydd sydd wedi’i gyhoeddi gan wyddonwyr, maen nhw’n amcangyfri’ y bydd angen gwario £10.6trn yn flynyddol erbyn 2100 pe bai tymheredd y byd cadw o dan 2⁰C i lefelau cyn-ddiwydiannol.
Maen nhw’n dweud mai gwledydd fel Tseinia a fydd yn cael eu heffeithio mwya’ gan lifogydd o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr, tra bo gwledydd cyfoethocach yn medru ymdopi rhywfaint oherwydd eu hamddiffynfeydd llifogydd.
Mi fydd cynnydd o 1.5⁰C, medden nhw, yn codi lefel y môr o tua 0.52m (1.7 troedfedd), tra bo methiant i gadw’r tymheredd o dan 2⁰C wedyn yn achosi’r môr i gynydu 0.86m (2.8 troedfedd) – ac hyd yn oed 1.8m (5.9 troedfedd).
Perygl y dyfodol
“Mae mwy na 600 miliwn o bobol yn byw mewn mannau arfordirol isel, sy’n llai na 10m o dan lefel y môr,” meddai Dr Svetlana Jeverjeva, o Ganolfan Eigionegol Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
“Mewn hinsawdd gynhesach, mi fydd lefel y môr yn cynyddu o ganlyniad i rewlifoedd a llenni ia yn toddi, ac o ganlyniad i ehangu thermal dyfroedd y môr.
“Felly, mi fydd cynnydd yn lefel y môr yn un o’r agweddau mwyaf difrodus wrth i’r hinsawdd gynhesu.”