Mae’r ffaith bod yr holl docynnau ar gyfer gŵyl gerddorol ym Mlaenau Ffestiniog wedi eu gwerthu, yn brawf o bwysigrwydd yr ardal i ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Dyna farn Ceri Cunnington, un o drefnwyr Gŵyl Car Gwyllt, sydd hefyd am bwysleisio bod y gig yn digwydd heb geiniog o nawdd cyhoeddus.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal mewn marcî ar gae rygbi Blaenau Ffestiniog ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 14, rhwng dau y p’nawn a hanner nos.
Mae Anweledig wedi ailffurfio yn unswydd i berfformio, y tro cyntaf iddyn nhw fod ar lwyfan ers 11 mlynedd.
Bydd 12 o fandiau Cymraeg eraill yn chwarae yn ystod y dydd, a’r bwriad yw rhannu’r elw ymysg mentrau cymunedol lleol.
Cadw’r costau lawr
Mae’r trefnwyr wedi llwyddo i gadw’r costau lawr oherwydd haelioni grwpiau lleol, meddai Ceri Cunnington.
Cafodd y marcî ei roi i’w ddefnyddio am ddim gan gwmni Seren Ffestiniog Cyf, sy’n cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu yn yr ardal.
Ac mae aelodau’r clwb rygbi wedi gwirfoddoli i redeg y bar a chadw golwg ar ddiogelwch ar y safle.
“Mae o’n dangos balchder mewn bro,” meddai Ceri Cunnington.
“Mae o’n dangos bod fama yn bwysig o ran dyfodol yr iaith, dyfodol diwylliant Cymraeg.
“Ac mae o’n tueddu i gael ei anwybyddu, achos mae pobol yn cymryd [yr ardal] yn ganiataol.
“Yn economaidd, mae o’n dlawd. Ond yn ddiwylliannol, mae o’n uffernol o gryf.
“A dw i’n meddwl bod ni eisiau codi ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
“Os ydyn nhw eisiau gweld yr iaith a diwylliant Cymraeg yn ffynnu, a’r miliwn o siaradwyr Cymraeg yma, mae eisiau iddyn nhw fuddsoddi mewn llefydd fel Blaenau hefyd.
“Mae fama cyn bwysiced ag unrhyw Dafwyl – a dim lladd ar Tafwyl ydw i. Ond trio gwneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o le mae angen y buddsoddiad.”
Galw am gefnogaeth
Gyda chysgod tros ddyfodol clwb ieuenctid Blaenau Ffestiniog, oherwydd toriadau ariannol, mae Ceri Cunnington yn dweud bod angen “aildanio pethau”.
“Mae yn rhaid i ni wneud pethau tros ein hunain, fel rydan ni yn trio ei wneud yn Blaenau.
“Ond hefyd, mae yn rhaid i ni gael cefnogaeth asiantaethau a sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd…
“Ond dim chwarae’r victim ydw i, ond dweud: ‘Dowch i ni afael ynddi hi a mynd amdani go-iawn’.
“A dathliad fydd y gig yma. Fydd o ddim yn rant gwleidyddol! Parti fydd o!
“Mae o’n mynd i fod yn hwyl ac yn ddathliad. A dyna’r ffordd rydan ni yn mynd i oroesi – mynd amdani, peidio bod yn victims.”
Mwy am aduniad Anweledig yng nghylchgrawn Golwg