Mae cerddor o Geredigion ar daith gerddorol i “ddarganfod tirwedd gerddorol Ceredigion a Gorllewin Cymru”.
Mae Owain Shiers o Gapel Dewi ger Llandysul wedi teithio tipyn o amgylch Cymru a Lloegr fel cerddor, ond bellach mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau yn ne Ceredigion i ddysgu mwy am y traddodiad baledol a chanu gwerin yno.
Mae’n dweud iddo gael ei ysbrydoli i gychwyn y prosiect, ‘Cynefin’, ar ôl gwylio rhaglen o’r 1970au o’r enw Dilyn Afon Cletwr, sy’n cynnwys y baledwr, Daff Jones, yn canu ‘Cân Dyffryn Cletwr’ – hen gân werin o ardal Llandysul.
Ar ôl ymchwilio mwy i’r gân a chaneuon gwerin eraill o’r ardal wedyn, fe benderfynodd y cerddor “ehangu o Ddyffryn Cletwr” a chasglu caneuon gwerin o ardaloedd eraill, a hynny’n bennaf i ganfod eu “tarddiad”, meddai.
“Dw i’n edrych ar y lle mae caneuon yn tarddu, achos pan ydych chi’n clywed caneuon gwerin, rydych chi ddim yn aml yn gwybod lle mae’n dod o yng Nghymru…” meddai wrth golwg360.
“I fi, mae’n rhan o’r stori beth yw tarddiad y gân – pwy ysgrifennodd y gân neu bwy casglodd y gân a beth yw stori’r gân.
“Dw i’n ceisio llenwi gwybodaeth ynglŷn â’r caneuon yma wedyn i greu mwy o fap o Geredigion.”
Pwysigrwydd y stori
Ymhlith y caneuon mae Owen Shiers wedi dod ar eu traws yw’r faled ‘Cân y Melinydd’, sy’n deillio, meddai, o ardal Lanybydder, ynghyd â’r ‘Ddau Farch’ o ardal Tregaron – sy’n sgwrs rhwng dau geffyl.
Ac wrth gyflwyno caneuon o’r fath i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg, mae’r canwr gwerin yn dweud bod cyflwyno’r cefndir yn “bwysig”.
“Os ydych chi’n edrych ar y baledi yn enwedig, a’r stwff sydd i gyd [yn yr archif] yn Aberystwyth, mae lot o hanes yn y baledi – lot o hanes difyr iawn.
“Mae’n hanes y werin, yr hanes ry’ch chi ddim yn ei gael yn y llyfre hanes, sef hanes pob dydd…”
“Rydych chi’n cael darlun diddorol iawn o fywyde pobol o ddechrau’r 17ganrif i’r ganrif ddiwetha’.”
Colli’r traddodiad
Bwriad Owen Shiers yn yr hirdymor yw gosod y caneuon, ynghyd â’u halawon, mewn un gyfrol, ond cyn hynny mae am greu albwm o’r casgliad, gan gychwyn ar y gwaith yn yr hydre’.
Mae’n awyddus i wneud hynny, meddai, oherwydd bod yna beryg i’r caneuon “ddiflannu” o gof gwlad.
“Maen nhw wedi mynd ar goll yn barod. Mae’r genhedlaeth ola’ sy’n eu cofio nhw wedi mynd.
“Dw i wedi bod yn sgwrsio â rhai pobol sydd efalle’n 80-90 oed, sydd jyst ar ffinie’r bobol sy’n cofio’r stwff llai adnabyddus.
“Ond ar ôl hynny, ry’ch chi i mewn i’r stwff poblogaidd fel ‘Sosban Bach’, y mae pawb yn gwybod, a dim y stwff lleol.”
Dyma glip o Owen Shiers yn perfformio ‘Cân Dyffryn Cletwr’, sy’n adrodd hanes llanc sy’n gadael ei gynefin er mwyn mynd i forio…