Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £3miliwn i helpu i greu menter newydd fel bod pedwar o ddarparwyr tai cymdeithasol, Cymru yn gallu cyd-weithio a gwrdd â gofynion y wlad.


Mae Cymdeithas Tai Clwyd, Hendre, Coastal Housing a grwpiau Seren wedi dod i ynghyd i greu Partneriaeth Tai Cymru gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy ar hyd gogledd a de Cymru. Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality hefyd wedi cyfrannu £12 miliwn tuag at y bartneriaeth

Mwy o dai ar gael

Y gobaith yw y bydd 150 o dai fforddiadwy ychwanegol ar gael yn y flwyddyn gyntaf gan ostwng y nifer ar rhestrau aros am dai cymdeithasol. Bwriad y bartneriaeth hefyd yw darparu cartrefi ar gyfer pobl ar gyflogau isel sydd eisiau prynu eu tai eu hunain yn y tymor hir ond sy’n methu fforddio hynny ar hyn o bryd.

Dywedodd y gweinidog Tai, Adferiad a Threftadaeth Huw Lewis: “Mae darparu tai fforddiadwy o safon yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth. Dros y pum mlynedd nesaf rydan ni’n awyddus i gynyddu nifer y tai sydd ar gael a rhoi mwy o ddewis i bobl. Fe fydd y bartneriaeth yn helpu ein hamcanion.”