Llun o wefan UCU Caerdydd
Mae miliynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn bwriadu cynnal cyfres o streiciau gan ddechrau ar Dachwedd 30 yn sgil ffrae ynglyn â phensiynau.

Mae mwy na 20 o undebau sy’n cynrychioli hyd at dair miliwn o weithwyr – o ddiffoddwyr tân i weithwyr cymdeithasol – yn bwriadu herio’r Llywodraeth.

Unison oedd y cyntaf i gyhoeddi eu bod yn bwriadu cynnal pleidlais ymhlith yr aelodau o fewn yr wythnosau nesaf, ac fe fydd rhai o undebau mwya’r wlad yn ymuno â nhw.

Mae’r anghydfod yn deillio o gynlluniau i gynyddu cyfraniadau pensiwn miliynau o weithwyr sector cyhoeddus.

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod ymddygiad yr arweinwyr undeb yn “anghyfrifol dros ben” ac wedi eu hannog i drafod y mater ymhellach.

Ond yn ôl yr undebau, mae’r trafodaethau sydd wedi cael eu cynnal dros yr with mis diwethaf wedi bod yn “ffars” gan ddweud bod gweinidogion wedi gwrthod newydd eu cynlluniau amhobolgaidd.

‘Digon yw digon’

Y bwriad yw cynnal y streic ddiwrnod ar ôl i’r Canghellor wneud darganiad ynglŷn â’r economi.

Dywedodd arweinydd Unison Dave Prentis y byddai Tachwedd 30 yn nid yn unig yn ddiwrnod o weithredu diwydiannol ond hefyd yn gyfle i “ddod â chymunedau ynghyd i wrthwynebu toriadau’r Llywodraeth.”

Dywedodd bod yr aelodau wedi meddwl yn ddwys cyn dod i’r penderfyniad i gynnal streic ond “digon yw digon”