Silffoedd bwyd (Joeribe CCA 3.0)
Fe fydd rhai o’r labeli dyddiad ar fwydydd yn diflannu er mwyn torri’n ôl ar wastraff.
Mae adran fwyd Llywodraeth Prydain, DEFRA, wedi cyhoeddi rheolau newydd a fydd yn cael gwared ar labeli sy’n dweud ‘Gwerthwch erbyn’ neu ‘Dangoswch hyd at’ … ‘Sell by’ a ‘Display Until’.
O hyn ymlaen, dim ond dau fath o label fydd yna – ‘Defynyddiwch erbyn’ (Use by) ac ‘Ar ei orau cyn’ (Best before).
- Fe fyddai’r ‘Use by’ ar gyfer bwydydd sy’n beryglus os ydyn nhw’n rhy hen – fel caws meddal, pysgod wedi’u cochi neu fwydydd parod.
- Fe fyddai ‘Best before’ ar gyferbwydydd sy’n parhau i fod yn saff ond heb fod ar eu gorau.
Y nod, meddai’r Llywodraeth, yw symleiddio’r system i gwsmeriaid fel bod llai o fwyd da’n mynd yn wastraff – gwerth £12 biliwn y flwyddyn, medden nhw.
Yn ôl y mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn gwastraff bwyd, Wrap, mae hynny’n costio £680 ar gyfer pob teulu yng ngwledydd Prydain.
Addysgu
Roedd y mudiad, cwmnïau bwyd a siopau i gyd yn rhan o’r trafodaethau a arweiniodd at yr argymhellion newydd.
Ond mae llefarydd bwyd Consortiwm Manwerthu Prydain yn mynnu mai’r prif angen yw fod y Llywodraeth yn addysgu pobol yn well am ystyr y ddau wahanol fath o label.