Mae poblogaeth Cymru yn parhau i dyfu, ond mae’r twf hwnnw’n arafu, yn ôl ffigurau diweddara’r Swyddfa Ystadegau (ONS).

Amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru yn 3,125,200 yr haf diwethaf – sy’n gynnydd o 0.39% ers y flwyddynt cynt. Rhwng 2015 a 2016 mi gynyddodd y boblogaeth gan 0.5%.

Mae’r un patrwm i’w weld tros wledydd Prydain oll. Cynyddodd poblogaeth y Deyrnas Unedig gan 0.6% rhwng 2016 a llynedd i ychydig dros 66 miliwn – o gymharu â thwf o 0.8% yn y flwyddyn flaenorol.

Yn ogystal dyma’r twf isaf dros wledydd Prydain gyfan, ers canol 2004.

Dyma’r tro cyntaf i’r ystadegau gael eu cyhoeddi ers refferendwm Brexit, ac yn ôl y Swyddfa Ystadegau mae’r bleidlais wedi cyfrannu at arafu’r twf.

Brexit

“Mae nifer y bobol sy’n mewnfudo ar gyfer swyddi pendant wedi aros yn sefydlog,” meddai bwletin yr ONS. “Ond mae gostyngiad 43% wedi bod yn y nifer o bobol sy’n mewnfudo i chwilio am swyddi dros y flwyddyn ddiwetha’ – yn enwedig dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r newidiadau yma yn awgrymu bod Brexit yn debygol o fod yn ffactor, wrth ddylanwadu penderfyniad pobol i symud i neu o’r Deyrnas Unedig. Er hynny, mae’r penderfyniadau tros symud yn gymhleth, ac mae ffactorau eraill yn debygol o ddylanwadu’r ffigurau.”

Mae poblogaeth Cymru, sy’n cyfrif am 4.7% o boblogaeth y Deyrnas Unedig, yn 4.0% yn uwch na’r hyn oedd 10 mlynedd ynghynt yn 2007. Mae’r twf yn llai na hanner y twf o 8.2% a welwyd yn Lloegr dros yr un cyfnod.