Gall adweithydd niwclear bychan gwerth £44m agor yn Nhrawsfynydd fel rhan o ymdrech i ymchwilio i dechnolegau niwclear newydd.

Daeth y cyhoeddiad heddiw o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n rhan o gynllun ehangach gwerth £200m Llywodraeth Prydain i fuddsoddi yn ynni niwclear.

Y bwriad yw gwneud niwclear yn rhatach i weithredu a chael mwy o fenywod – 40% erbyn 2030 – i weithio yn y diwydiant.

Mae disgwyl i’r buddsoddiad ddod â channoedd o swyddi i Drawsfynydd ar ôl i’r orsaf bŵer niwclear yno gau yn 1991.

Dan y cynlluniau, bydd cyfleuster hydrolig thermal newydd gwerth £40m yn agor yng ngogledd Cymru hefyd, ac mae’n debyg mai Parc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn yw’r lleoliad sy’n cael ei ffafrio.

Byddai’r ganolfan yn arwain yr ymdrechion ar ddatblygu technolegau niwclear newydd.

Addo cannoedd o swyddi

“Mae’n arbennig o addas ein bod ni’n lansio strategaeth niwclear Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Nhrawsfynydd,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

“Mae’r safle hwn yn adlewyrchu gorffennol ein diwydiant niwclear a dyfodol cyffrous fel y safle posib am genhedlaeth newydd o adweithyddion bychan, gan roi Cymru wrth wraidd diwydiant niwclear y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd fod y safle sydd eisoes yn Nhrawsfynydd bron yn barod, gydag ychydig o waith diweddaru angen ei wneud.

“Mae yn y lle iawn gyda’r bobol iawn a chysylltiadau da i sefydliadau ymchwil academaidd blaengar yn y sector niwclear.

“Gallai’r math o adweithydd bach a allai gael ei leoli yn Nhrawsfynydd ddechrau ar gyfnod o bŵer cost effeithlon gydag offer yn cael ei roi at ei gilydd oddi ar y safle a’i symud i leoliadau fel hyn er mwyn gwneud yn haws i osod.”

Ychwanegodd y byddai’r cyfleuster newydd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb mawr i’r economi leol yn y gogledd.

Mae Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Croeso brad gan Horizon

Meddai Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Pŵer Niwclear Horizon:

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Fargen hon ar gyfer y Sector Niwclear.

“Mae’n dangos yn glir sut bydd y llywodraeth a diwydiant yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan ynni niwclear rôl allweddol o hyd o ran darparu pŵer glân a diogel i’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â darparu swyddi, sgiliau a buddsoddiad ledled y wlad.

“Mae’r fargen hon yn nodi’n glir beth yw’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer y diwydiant.

“Er enghraifft, datblygu’r sylfaen sgiliau sydd ei hangen i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn un o’r prif wledydd niwclear yn y byd a’r ymrwymiad i wella amrywiaeth rhwng y ddau ryw.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at chwarae ein rhan.

“Rydyn ni’n arbennig o falch o weld y Fargen yn cael ei lansio yng Nghymru, sydd â chysylltiad hir a llwyddiannus â’r diwydiant niwclear.

“Mae ein prosiect, Wylfa Newydd, yn rhan o’r berthynas honno, a bydd yn arwain at fanteision i genedlaethau i ddod ar Ynys Môn, ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Chymru gyfan.”