Mae gŵyl gerddorol mewn gardd fotaneg ger Bangor wedi codi dros £17,000 ar gyfer cadwraethwraig sydd wedi’i pharlysu.
Roedd Sophie Williams yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, ond dair blynedd yn ôl mi gafodd ei pharlysu ar ôl dal haint feirol yr ymennydd – o’r enw ‘Enceffalitis Japaneaidd’ – wrth gynnal ymchwil yn Tsieina.
Er mwyn codi arian ar gyfer addasiadau angenrheidiol i’w thŷ, mi benderfynodd ffrindiau Sophie Williams, gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor, drefnu Gŵyl Draig Beats a gafodd ei chynnal yng Ngardd Fotaneg Treborth.
Roedd yr ŵyl ei hun yn cynnwys stondinau bwyd, gweithdai a gweithgareddau i’r plant a pherfformiadau gan fandiau o ledled y byd.
Daeth dros 800 o bobol i’r digwyddiad, gan sicrhau elw o £17,000 a fydd yn mynd i adnewyddu tŷ Sophie Williams ym mhentref Tregarth.
Cefnogi “cadwraethwr angerddol”
“Pleser oedd cael croesawu Gŵyl Draig Beats yma,” meddai Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotanegol Treborth.
“Mae Sophie wedi bod yn rhan annatod o’r Ardd fyth ers ei chyfnod fel myfyrwraig yma, a bu’n cynorthwyo i drefnu ein Gŵyl gerddoriaeth gyntaf, Botanical Beats, yn 2009.
“Roedd yn hollol naturiol ein bod yn cynorthwyo a chasglu ynghyd y rhai sydd yn caru Sophie ac sydd eisiau ei chynorthwyo fel ei bod yn medru symud yn ôl i’r chartref yn Nhregarth.”