Mae golwg360 wedi llwyddo i ddatrys dirgelwch teuluol y meddyg o Sir Gaerfyrddin sy’n gwneud argaff gyda’r ledis ar y gyfres realaeth, Love Island bob nos.
Mae Dr Alex George yn or-or-ŵyr i’r unig Gymro i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, trwy Gwilym – ail fab David Lloyd George, a’i bedwerydd plentyn gyda’i wraig gyntaf, Margaret Owen.
Mae’r ffaith i Alex George ddatgelu rai blynyddoedd yn ôl ar Instagram ei fod yn ddigynnydd i David Lloyd George, wedi achosi cryn drafod yn y wasg a’r cyfryngau Saesneg – ond does yna neb, hyd yma, wedi gallu profi sut.
Ond mae ychydig o dyrchu yn dangos yn union sut y mae’r meddyg ysbyty sy’n hanu o Sir Gaerfyrddin, yn perthyn i’r Dewin o Lanystumdwy.
Mae cynrychiolydd o Gymdeithas Lloyd George, wedi cadarnhau casgliadau golwg360 mai mab i ddarpar Iarll Dinbych-y-pysgod, Timothy Henry Gwilym Lloyd George, ydi’r cystadleuydd sy’n ceisio dod o hyd i gariad ar y teledu bob nos ar hyn o bryd.
Beth yn union yw’r bethynas?
Fe gafodd David Lloyd George (1863-1945) bump o blant gyda’i wraig gyntaf, Margaret Owen, sef Richard Lloyd George (1889-1968); Mair Lloyd George (1890-1907); Olwen Elizabeth Carey Evans (1892-1990) – o’r cyff hwn y mae’r hanesydd Dan Snow yn hanu; Gwilym Lloyd George (1894-1967) a Megan Lloyd George (1902-1966). Gwilym Lloyd George ydi hen-daid Alex George.
A’r Gwilym Lloyd George hwn oedd y cyntaf o’r teulu i arddel teitl Viscount Tenby (Iarll Dinbych-y-pysgod). Roedd, fel ei dad, David Lloyd George, yn wleidydd, ac fe dreuliodd gyfnod o dair blynedd yn Ysgrifennydd Cartref Prydain rhwng 1954 a 1957, dan Winston Churchill ac Anthony Eden. Fe gafodd ei eni yng Nghricieth a’i addysgu yng Nghaergrawnt, cyn priodi Edna Gwenfron Jones yn 1921 a chael dau o feibion – David Lloyd George a William Lloyd George (g.1927). Bu farw Gwilym Lloyd George yn 1971.
Mae’r William Lloyd George uchod (wyr y Dewin) yn dal yn fyw, wedi iddo ymddeol o Dy’r Arglwyddi yn 2015, gan ddod â chanrif o gysylltiad y teulu â’r ail siambr i ben. Fe dreuliodd gyfnod yn swyddog yn y fyddin. Bu farw ei frawd mawr, David, yn ddibriod yn 1983, a dyna pam mai ef, fel ail fab, a etifeddodd y teitl Iarll Dinbych-y-pysgod. Ef yw taid Alex George, Love Island, trwy iddo a’i wraig, Ursula Diana Ethel Medlicott, gael eu bendithio a dwy ferch ac un mab – Timothy Henry Gwilym, Sara a Clare.
Fe anwyd Timothy Henry Gwilym Lloyd George yn 1962, ac fe gafodd ei fedyddio ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn Crookham, Hampshire. Fe aeth i’r brifysgol yn Aberystwyth, ac fe dreuliodd gyfnod yn 2003 yn byw yn Sydney, Awstralia. Ef yw tad Dr Alex George.
Mae Alex George ei hun yn 27 mlwydd oed ac yn gweithio fel meddyg yn uned ddamweiniau ysbyty yn Lewisham yn Llundain. Fe astudiodd Fathemateg ym Mhrifysgol Exeter, cyn newid trywydd ei yrfa. Mae’n disgrifio ei hun fel Cymro, yn hanu o Sir Gaerfyrddin.