Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi taflu ei het i’r cylch i olynu Carwyn Jones yn arweinydd Llafur Cymru.
Mae wedi gwneud y cyhoeddiad, er nad yw eto wedi sicrhau cefnogaeth Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Mewn cyfweliadau radio heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 12), hi yw’r ymgeisydd sy’n “cynrychioli newid” yn yr etholiad i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Mae’n dweud bod ganddi “lot fawr o brofiad” gwleidyddol y tu hwnt i’r Bae, a bod y profiad hwnnw yn dangos ei bod hi’n gallu “uniaethu” â phob lefel o lywodraeth.
Mae’n ychwanegu hefyd fod angen creu delwedd “newydd” i’r Blaid Lafur, gan fynd y “tu hwnt i’r Bae” a gwrando ar farn pobol Cymru.
Tri yn y ras
Eluned Morgan yw’r trydydd Aelod Cynulliad, a’r unig ddynes, i fynegi diddordeb mewn olynu arweinydd presennol Llafur Cymru, Carwyn Jones.
Mae Mark Drakeford a Vaughan Gething eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu sefyll am yr arweinyddiaeth, gyda’r ddau wedi sicrhau cefnogaeth gan Aelodau Cynulliad.
Mae angen enwebiadau gan bumpo aelod er mwyn sefyll, ond Mark Drakeford yw’r unig un sydd wedi sicrhau digon o gefnogaeth hyd yn hyn.