Mae’r chwaraewraig pêl-droed Jess Fishlock a’r sgïwraig Baralympaidd Menna Fitzpatrick wedi derbyn MBE fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr.

Menna Fitzpatrick, 20, oedd Paralympwraig fwyaf llwyddiannus Prydain yng Ngemau’r Gaeaf eleni.

Jess Fishlock oedd y bêl-droedwraig gyntaf o Gymru i ennill 100 o gapiau dros ei gwlad, ac mae hi wedi’i hanrhydeddu am ei chyfraniad i bêl-droed a’r gymuned LGBT.

Anrhydeddau eraill

Hefyd yn derbyn MBE mae’r cyn-chwaraewr rygbi Dai Morris.

Mae’r awdur o Gaerdydd, Ken Follett wedi derbyn CBE am ei gyfraniad i’r byd llenyddol ac i elusennau.

Hefyd wedi’i anrhydeddu mae’r entrepreneur gemau fideo a sylfaenydd cwmni Wales Interactive, David Banner, oedd yn flaenllaw wrth sefydlu cwrs dylunio gemau ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n derbyn OBE.

Yn derbyn MBE mae’r Capten Louis Rudd am ei gyfraniad i’r fyddin, ac yntau’n anturiaethwr, a’r perchennog sinema Steve Reynolds, sy’n berchen ar fwy na 50 o sinemâu annibynnol yng ngwledydd Prydain.

Y rhestr yn llawn