Mae Sefydliad y Merched yn bwriadu mynd i’r afael â’r stigma sydd ynglyn â iechyd meddwl.
Yn ystod eu cyfarfod blynyddol, pleidleisiodd eu haelodau o blaid “cydnabod [y] cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol”, ac mae’r corff wedi ymrwymo i “lobïo llywodraethau am well gymorth ar gyfer iechyd meddwl”.
Bob blwyddyn, mae tua chwarter y boblogaeth yn wynebu problem iechyd meddwl, ac o’r rheiny mae’r mwyafrif (90%) yn wynebu stigma.
“Lleihau’r stigma”
“Mae hyn yn ganlyniad positif iawn,” meddai Lynne Stubbings, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched.
“Bydd yr ymgyrch hwn yn gweld aelodau SyM yn lleihau’r stigma ynghylch iechyd meddwl trwy ddysgu am y mater a’i drafod yn agored yng nghymunedau lleol, a cheisio edrych ar atebion cenedlaethol i’r broblem.”