Mae’r ddelwedd o laeth sydd wedi’i chyflwyno yn y cyfryngau yn ddiweddar, yn “eitha’ niweidiol” i’r diwydiant yng Nghymru, meddai cwmni Cymreig.

Dyna yw barn Jade Goellnitz sy’n Swyddog Marchnata i gwmni Daioni – gwerthwyr a chynhyrchwyr llaeth sydd â thair fferm yng ngorllewin Cymru.

Daw ei sylw yn sgil wythnos o godi pryderon am effaith llaeth, ar yr amgylchedd – erthygl The Guardian – ac ar iechyd plant – Cynllun Gordewdra Plant.

“Poenydio”

“Dyw’r feirniadaeth ddim yn deg,” meddai Jade Goellnitz, gan nodi bod Daioni yn gwmni “organig a gwyrdd”, a bod ysgytlaeth y cwmni yn “fwy maethlon” na diodydd melys eraill.

Mae hefyd yn dweud bod ffermwyr llaeth wedi cael llawer o drafferth gan grwpiau amgylcheddol a feganiad a fu’n eu “poenydio” ar gyfryngau cymdeithasol.

“Rydyn ni’n nabod llawer o ffermwyr yn yr ardal, ac maen nhw yn poeni am eu hanifeiliaid,” meddai wrth golwg360.

“Pe bai pawb yn stopio cynhyrchu llaeth, beth fyddai’n digwydd i’r holl dir yma? Mae yna oblygiadau i bopeth.”

“Poblogaidd”

Er hyn i gyd, mae llaeth mor boblogaidd ag erioed, meddai Jade Goellnitz.

“Dw i ddim yn credu bod llaeth yn troi’n llai poblogaidd,” meddai. “Beth sy’n digwydd, dw i’n credu, yw bod trends yn newid.

“Un peth da sydd wedi dod o’r hype yma am gynnyrch llaeth yw bod ymwybyddiaeth yn newid. Mae pobol yn dechrau sylwi bod cynnyrch organig yn dda i ni.”