Mae cartref Hedd Wyn yn Eryri, Yr Ysgwrn, wedi derbyn nifer o wobrau gan Gymdeithas y Penseiri yng Nghymru, sy’n golygu y bydd ar restr fer y gwobrau Prydeinig.

Dywed y beirniaid fod Yr Ysgwrn wedi’i weddnewid o fod yn “heneb oedd yn dirywio” i fod yn atyniad diwylliannol o bwys yng Nghymru.

O ganlyniad, fe ddaeth i’r brig mewn sawl categori – Adeilad y Flwyddyn, y Wobr Gadwraeth a Phensaer Prosiect y Flwyddyn.

Mae’n un o dri adeilad yng Nghymru sydd wedi’u gwobrwyo, ynghyd â Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd a chanolfan Pontio ym Mangor.

Roedd y tri adeilad ar restr fer ranbarthol o chwech – dau yn fwy na’r llynedd – a byddan nhw nawr yn cystadlu am Wobr Stirling RIBA ar lefel Brydeinig.

Adnewyddu’r Ysgwrn

Cafodd cartref bardd y gadair ddu ei ailagor i’r cyhoedd ym mis Mehefin wedi gwaith adnewyddu ar y tŷ ac adeiladau’r fferm.

Derbyniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, £3.1m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu’r safle.

Gyda’r buddsoddiad yma mae’r corff wedi medru atgyweirio ystafelloedd a dodrefn yr Ysgwrn, darparu adnoddau addysg yno, ac wedi gwella mynediad at y safle.

Mae’r tŷ wedi ei adfer i edrych fel y byddai ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf ac mae Beudy Llwyd wedi cael ei ddatblygu’n adeilad croeso.

Y tu allan i’r prif adeiladau, mae cwt mochyn wedi ei droi’n dŷ ystlumod, mae’r corlannau moch wedi eu hail-gyflwyno ac mae boelerdy biomas wedi’i hadeiladu.