Fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal mewn hen gapel Undodaidd yn Sain Ffagan y penwythnos hwn, i ddynodi 150 mlynedd ers Etholiad 1868.
Yn ôl y Parchedig Wyn Thomas, a fydd yng ngofal y gwasanaeth yng nghapel Pen-rhiw ar Fehefin 10, roedd gan yr etholiad “oblygiadau pellgyrhaeddol ac ofnadwy” i ardal y Smotyn Du yng Ngheredigion.
Dyma gychwyniad, meddai, yn hyn a arweiniodd at y ‘troi allan’ o Gapel Llwynrhydowen, ger Llandysul, yn 1876, lle cafodd aelodau’r capel eu cloi allan o’r adeilad gan sgweier stad Alltyrodyn a pherchennog y tir, John Lloyd Davies.
“Yn fan’na dechreuodd y probleme mawr yn Llwynrhydowen, a’r probleme mawr rhwng Sgweier Alltyrodyn a’r tenantiaid mwy Rhyddfrydol,” meddai wrth golwg360.
“Er mai yn y 1870au y digwyddodd y galanas mawr, mae’n deillio’n ôl, wrth gwrs, i’r gwahaniaethau mawr rhyngddyn nhw yn Etholiad 1868.”
Dathlu annibyniaeth barn
Mi fydd y gwasanaeth ei hun yn cynnwys cyflwyniad o’r hanes gan aelodau capeli Undodaidd ardal y Smotyn Du.
Mi fydd hyn, meddai Wyn Thomas wedyn, yn gyfle i “ddathlu” un o egwyddorion pwysicaf Undodiaeth, sef “annibyniaeth barn”.
“R’yn ni’n dal i fod yn dathlu’r ffaith ein bod ni wastad wedi bod yn barod i sefyll dros y gwirionedd ac i wneud yr hyn r’yn ni’n teimlo sy’n iawn.
“R’yn ni ond yn gobeithio y byddwn ni’n gallu cydio yn yr un gân a’r un fflam a gadael iddo losgi yn ein bywydau ni heddi’, achos r’yn ni’n gwybod bod digon o angen yr annibyniaeth barn a’r parodrwydd yma i weithio ac i weiddi dros wirionedd a dros gyfiawnder heddi’ – yn fwy nag erioed.”
Mae’n ychwanegu y bydd yna ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys cyflwyniad arbennig o’r hanes yng Nghapel Llwynrhydowen “yn yr Hydref”.
Capel Pen-rhiw
Fe gafodd Capel Pen-rhiw ei adeiladu fel ysgubor yn Nrefach-Felindre yng nghanol y 18fed ganrif, cyn cael ei ddefnyddio fel tŷ cwrdd gan yr Undodiaid o 1777 ymlaen.
Mi gaeodd fel capel ar ddechrau’r ganrif ddiwetha’, cyn cael ei symud i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 1956.
Er nad oedd Capel Pen-rhiw yn rhan o’r digwyddiadau a ddeilliodd o Etholiad 1868, mae’r adeilad wedi datblygu’n “eicon o Undodiaeth yng Nghymru”, meddai Wyn Thomas.
Mae Undodwyr ardal y Smotyn Du yn cynnal gwasanaeth yno yn flynyddol.