Fe fydd tri o Gymry yn rhannu eu hatgofion am y ‘Moors Murders’ ar S4C heno – ac yn dwyn i gof sut brofiad oedd canu yn yr un cor â Myra Hindley, ac ysgrifennu llythyron at Ian Brady
Yn rhaglen olaf y gyfres Y Ditectif, fe fydd yr actores Mali Harries yn cwrdd â thri pherson a ddaeth i gysylltiad â’r llofrudd Ian Brady a’i bartner Myra Hindley.
Mae’r rhaglen yn olrhain hanes y ddau lofrudd, a laddodd pump o blant mewn cyfnod o ddeunaw mis yn ystod y 1960au.
Fe gafod tri chorff eu claddu ganddyn nhw ar Saddleworth Moor ger Manceinion, ond chafodd corff Keith Bennet, 12 oed, erioed ei ddarganfod.
Cofio’r ddau lofrudd
Y tri a fydd yn ymddangos ar y rhaglen fydd y cyn-Dditectif Gwnstabl Evan John Hughes; yr ymgyrchydd iaith Enfys Llwyd; a’r newyddiadurwr Bob Rogers.
Fe ddaeth Evan John Hughes o Bwllheli wyneb yn wyneb ag Ian Brady pan oedd yn aelod o Heddlu Swydd Caer yn 1965, pan gafodd orchymyn i orchwylio’r llofrudd ar ôl iddo gael ei arestio gyntaf.
Bu Enfys Llwyd o Dalgarreg yn canu yn yr un côr a Myra Hindley yng Ngharchar Holloway, Llundain, a bu Bob Rogers yn llythyru ag Ian Brady yn y gobaith o gael gwybodaeth am leoliad corff Keith Bennet.
“Roeddech chi’n edrych ar ei dwylo hi a meddwl beth oedd y clustie wedi clywed a’r llygaid wedi gweld,” meddai Enfys Llwyd am ei hargraffiadau o Myra Hindley. “Roeddech chi’n teimlo arswyd.”
Y Ditectif, S4C, heno am 9.30yh