Mi fydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi eu barn ar gynlluniau i wella rhan o’r A55 yn Sir Conwy.
Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, sy’n cychwyn heddiw (dydd Llun, Mehefin 4), mi fydd naw cynllun yn cael eu hystyried ar gyfer y rhan o’r A55 rhwng Llanfairfechan a Phenmaenmawr.
Mae un o’r opsiynau’n cynnwys cael gwared ar ddwy gylchfan ar gyffyrdd 15 a 16 a chreu cyffyrdd ar wahân yn eu lle.
Mi fydd hynny, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn gwneud teithio yn fwy diogel ar yr A55, yn enwedig i bobol sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i Ddwygyfylchi, Llanfairfechan a Phenmaenmawr.
“datblygiad sylweddol”
Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, dyma “ddatblygiad sylweddol” i Ogledd Cymru.
“Mae’r A55 yn ffordd strategol bwysig sy’n cysylltu Cymru ag Iwerddon, Lloegr a gweddill Ewrop, a bydd y cynllun hwn yn rhoi sawl mantais gan gynnwys gwella llif y traffig a pha mor ddibynadwy yw amseroedd teithio yn ogystal â gwella diogelwch,” meddai.
Mi fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Awst 24.