Mae dyn 24 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar drac rasio preifat yng Ngheredigion.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ganolfan Gweithgareddau Canolbarth Cymru ym Mhontrhydfendigaid am tua un o’r gloch brynhawn ddoe (dydd Sul, Mehefin 3).
Bu farw’r dyn o Fryste, a oedd yn gyrru’r cerbyd, yn y fan â’r lle.
Cafodd dynes a oedd yn teithio gydag ef wedyn ei chludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau, ac mae hi bellach wedi gadael yr ysbyty.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n cynnal ymchwiliad i wybod beth yn union oedd amgylchiadau’r gwrthdrawiad.