Mae Llywydd Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2018 wedi galw ar i’r mudiad greu cystadleuaeth yn benodol i blant o leiafrifoedd gwahanol yng Nghymru.
Yr actor Richard Lynch, sy’n adnabyddus fel y cymeriad ‘Garry Monk’ ar Pobol y Cwm, yw Llywydd y Dydd heddiw.
Dywed ei fod am weld cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod sy’n ymwneud “gyda’r lleiafrifoedd o fewn ein cenedl ni”.
“Mae pobol o dras a chrefyddau gwahanol sydd ddim yn rhan o’r brif ffrwd yn rhan o gymdeithas Cymru bellach, felly byddai cystadleuaeth sy’n ymwneud yn fwy â nhw yn dda i’w weld,” meddai.
“Estyn mas”
Ac wrth sgwrsio â golwg360, dywed yr actor sy’n wreiddiol o Gaerffili ond bellach yn byw yn Aberhonddu, bod angen gwneud ymdrech i fynd at y cymunedau hynny.
“Fi’n credu bod angen i ni estyn mas, yn enwedig am ein bod ni’n mynd i Fae Caerdydd y flwyddyn nesa’.
“Mae yna gymunedau sydd ddim yn Gymreig ac yn siarad Cymraeg ac mae’n rhaid i ni estyn mas i’r lleiafrifoedd hynny sy’n byw yn ein gwlad ni.
“Dw i ddim cweit yn siŵr pa fath o natur byddai’r cystadlaethau yna ond mae’n rhaid gwneud rhywbeth i ddenu nhw mewn ac i wneud yn siŵr bod nhw’n rhan o’n cenedl ni.
“Dw i ddim yn credu bod e’n digwydd yn ddigonol. Dw i’n gwneud bach o waith yn ymestyn mas gyda National Theatre of Wales ac mae’n cymryd sbel hir i fagu hyder ynddyn nhw i fedru sefyll ymlaen a gwneud pethau fel hyn.
“Mae angen gwneud tipyn o waith yn palu a pharatoi’r tir.”
Maes parhaol – o blaid neu yn erbyn?
Roedd Richard Lynch yn eistedd ar y ffens pan ofynnwyd iddo a yw o blaid neu yn erbyn mas parhaol i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol.
Ond os byddai’r Eisteddfod yn penderfynu aros mewn un lle, dywedodd y byddai’n rhaid sicrhau bod cymunedau di-Gymraeg o ardaloedd ledled y wlad yn parhau i gael eu cynnwys.
“Bydden i’n awgrymu efallai’r peth pwysicaf, gan fy mod yn dod o ardal di-Gymraeg, yw bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr os nad yw’n symud o gwmpas bod nhw’n gwneud rhyw fath o ymdrech i ymestyn mas i’r ardaloedd hynny rhywsut.”
Fideo o Richard Lynch yn egluro’i safbwynt…