Mae Gweinidog y Gymraeg yn dal i fynnu bod newidiadau ar y gweill i newid y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion di-Gymraeg.

Mae’r drefn bresennol o astudio Cymraeg Ail Iaith yn ddiffygiol, gyda phlant yn gadael yr ysgol heb fedru siarad yr iaith.

Ond yn ôl Eluned Morgan, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu “trafferthion” wrth gyflwyno cymhwyster Cymraeg newydd.

Roedd y Gweinidog yn siarad â golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd yn dilyn beirniadaeth bod y Llywodraeth yn llusgo ei thraed wrth ddiwygio’r cymhwyster Cymraeg ail iaith.

Mae’n dweud y bydd arbenigwyr yn y maes yn cwrdd dros yr wythnosau nesaf i benderfynu ar y “ffordd orau” i gyflwyno’r newidiadau ac y bydd yn cyd-fynd “i raddau” gyda’r cwricwlwm newydd yn seiliedig ar argymhellion Yr Athro Graham Donaldson yn 2022.

Dywedodd y bydd newidiadau i’r pwnc Cymraeg Ail Iaith yn cael eu cyflwyno cyn 2021, er mai’r cynllun gwreiddiol oedd newid erbyn y flwyddyn hon.

“Methu colli cenhedlaeth arall”

“Ry’n ni’n edrych yn fanwl iawn ar y ffordd orau i wneud hyn, ry’n ni’n mynd i gynnal symposiwm [trafodaeth] yn ystod yr wythnosau nesaf i edrych ar y ffordd orau i ddysgu ail iaith,” meddai Eluned Morgan.

“Ry’n ni’n mynd i edrych ar beth sy’n digwydd ar draws y byd… dod ag arbenigwyr at ei gilydd i edrych ar beth yw’r ffordd orau i wneud hyn.

“Ni’n gwybod nad ydyn ni’n gwneud e yn ddigon da ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni newid y ffordd ry’n ni’n dysgu ail iaith, er bod ni ddim yn galw hi yn hynny rhagor…

“Y drafferth yw, mae’n rhaid i hwn gyd-fynd i raddau gyda’r newidiadau sy’n dod drwy Donaldson ond dw i’n ymwybodol iawn sdim amser gyda ni i golli cenhedlaeth arall.

“Felly dw i’n obeithiol y byddwn ni’n gallu dechrau cyn bod newidiadau Donaldson yn dod i rym.

“Bydd rhai [o’r newidiadau] yn dod mewn erbyn 2021, ond bydd yn cymryd amser iddyn nhw fynd drwy’r system ac felly dyna pam bod ni’n ymwybodol bod rhaid i ni ddechrau ar newid y ffordd ry’n ni’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion di-Gymraeg cyn hynny.”

Fideo o Eluned Morgan yn egluro’r sefyllfa: