Y prifeirdd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yw enillwyr Gwobrau Tir na n-Og eleni, sy’n cael eu rhoi i awduron llyfrau plant.
Dyma’r eildro i Myrddin ap Dafydd gipio’r wobr, ac eleni mae’n ennill yn y categori uwchradd am ei gyfrol Mae’r Lleuad yn Goch, sy’n clymu’r Tân yn Llŷn a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937.
Mae Mererid Hopwood yn cael ei chydnabod am y tro cyntaf, a hynny am ei nofel i blant oedran cynradd, Miss Prydderch a’r Carped Hud, y llyfr cyntaf yng nghyfres ‘Dosbarth Miss Prydderch’.
Cyngor Llyfrau Cymru sy’n trefnu gwobrau Tir Na n-Og bob blwyddyn, ac maen nhw wedi cael eu cynnal ers 1976.