“Mae’n mynd i ddigwydd eto” – dyna fydd un o drigolion Brechfa yn ei ddweud mewn cyfarfod cymunedol heno (nos Iau, Mai 31), yn dilyn rêf anghyfreithlon yn yr ardal yr wythnos ddiwethaf.
Mi barodd y ref rhwng ddydd Gwener a ddydd Llun, gwyl banc y Sulgwyn, gyda thua mil o bobol yn cymryd rhan, â cherddoriaeth yn cael ei chwarae tan oriau mân y bore.
Fe gafodd swyddogion eu galw yno ddydd Sul (Mai 27) gan rwystro rhagor rhag ymuno, a ddydd Iau (Mai 31) bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gan yr heddlu er mwyn trafod y digwyddiad.
Mae Lee yn byw 10 munud i ffwrdd o le gafodd y ref ei gynnal – yn Nant y ffin – ac yn bwriadu mynd i’r cyfarfod er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r heddlu’n cael “amser caled”.
Mae’n eu canmol am eu hymddygiad “cwrtais a phroffesiynol”, ond yn rhybuddio bod angen gweithredu er mwyn atal rhagor o refs yn y dyfodol.
Galw am gydweithio
“Wel, mae hyn yn digwydd yn eitha’ aml,” meddai ‘Lee’ wrth golwg360 – dyw e ddim am wedi rhannu ei gyfenw er mwyn aros yn rhannol anhysbys.
“Mae tipyn o ddigwyddiadau fel hyn yn digwydd yn yr ardal. Mae un mawr yn digwydd pob hyn a hyn. Yn sicr, mae hyn yn digwydd bob blwyddyn.
“Efallai bod angen mwy o gydweithio rhwng y gymuned â’r heddlu yn y dyfodol er mwyn rhwystro’r fath digwyddiadau rhag cyrraedd y lefel hyn eto.
Mae’n ategu bod angen i’r gymuned wneud rhagor o ymdrech i gyfathrebu â’r heddlu, ond hefyd yn nodi y dylai’r heddlu fod wedi cau rhai heolydd yn gynt.
Y rêf
O ran y rêf ei hun, mae Lee yn dweud ei fod wedi cwrdd â’r bobol oedd yno, ac wedi profi’r gerddoriaeth swnllyd a oedd yn cael ei chwarae.
Roedd 99% o bobol yno yn “ddigon cyfeillgar a chwrtais”, meddai, a’r 1% arall yn “swnllyd” ond nid yn gas. Ond mae barn ‘Lee’ am y gerddoriaeth yn eitha’ clir.
“Roedd y sŵn yn anferthol,” meddai. “Dw i erioed wedi clywed y fath sŵn. Dw i ddim yn siŵr sut oedd eu sustem sain yn medru creu hynna.”
“Hyd yn oed yng nghefn ein tŷ, roeddech yn medru clywed geiriau’r caneuon yn glir.”
Roedd dros 900 o geir wedi’u parcio ger safle’r ref, meddai, ac mae’n nodi ei fod yn pryderu am “ddeunydd miniog” – hynny yw, nodwyddau – a allai fod wedi’i gadael yno.
Dywedodd trigolion lleol wrth golwg360 bod sŵn y gerddoriaeth a’r traffig wedi bod yn boendod.
Y cyfarfod
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 5.30yp yn Neuadd yr Eglwys, Brechfa, ac mi fydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd rhan.
“Dw i’n hollol ymwybodol o’r effaith mae refs anghyfreithlon yn medru cael ar ein cymunedau gwledig,” meddai Dafydd Llywelyn.
“Mae’n annheg bod trigolion yn cael ei gorfodi i deimlo’n bryderus ac anghyffyrddus yn eu cartrefi eu hunain.
“Fe fydda’ i’n teithio i’r safle ym Mrechfa er mwyn asesu’r effaith leol, ac i glywed am brofiadau’r trigolion lleol. Dw i’n gobeithio trafod sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i stopio hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol.”