Mae enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes am eleni yn dweud bod yr Urdd yn golygu dau beth iddi, sef “Cymreictod a hapusrwydd”.
Gwenda Owen o Ruthun sy’n derbyn yr anrhydedd eleni, ac fe fydd yn derbyn y wobr ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Mai 31).
Mae’r cyn-athrawes a phennaeth ysgol yn hanu o ardal Dyserth yn Sir y Fflint, a thra oedd hi’n athrawes yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn, Rhuthun, fe fu’n weithgar yn hyfforddi plant ac yn sgriptio cynyrchiadau ar gyfer eisteddfodau.
Mae’n dweud mai’r wobr hon, sy’n cael ei rhoi’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad i faes ieuenctid, yw “anrhydedd mwya’ [eu] bywyd”.
“Dw i wedi bod yn aelod o’r Urdd ers 60 o flynyddoedd… dw i erioed wedi peidio â gwneud dim byd efo fo,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n cysylltu’r Urdd efo dau beth – Cymreictod a hapusrwydd.”