Mae un o lywyddion y dydd yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 yn dweud ei bod yn “bwysig” bod yr ŵyl yn parhau i symud o gwmpas Cymru.
Tro’r actores o Aberhonddu, Nia Roberts, yw hi i fod yn Llywydd y Dydd heddiw (dydd Iau, Mai 31), ac wrth siarad â golwg360, mae’n dweud y byddai’n “siomedig” pe byddai Eisteddfod yr Urdd yn rhoi’r gorau i fod yn ŵyl symudol.
“Yn tyfu lan, weithie beth oeddwn i’n teimlo yn dod [i’r Eisteddfod] o’r ardal yma, doeddwn i ddim yn teimlo’n ddigon Cymreig, a dw i’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod yr Eisteddfod yn dod yma iddyn nhw gael y cyfle i groesawu pawb yma,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n bwysig ei bod yn symud o gwmpas, dw i’n meddwl – i’r gogledd, i’r de ac i’r ardaloedd di Gymraeg.
“Mae pobol yn dueddol o ddod i’r Eisteddfod a fydde byth fel arfer yn mynd i’r Eisteddfod os na yw e’n dod i’w hardal nhw.”
Brwydr barhaus
Wrth sôn am ardal ei magwraeth wedyn, a thre’ Aberhonddu yn benodol, mae Nia Roberts yn dweud bod yna “wastad brwydr” yn y dre’ o ran cadw’r Gymraeg yn fyw.
Mae’n nodi’r ymgyrch i adfer y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn ddiweddar fel un enghraifft o hyn.
“Pan oeddwn i yno, roedd yn bosib gwneud Cymraeg iaith gyntaf, daearyddiaeth, hanes a sgryddiaeth, ac yn ddiweddar maen nhw wedi bygwth rhoi’r gorau i hwnna, felly bydde plant Aberhonddu yn gorfod dod i Lanelwedd i’r ysgol uwchradd, sydd 20 milltir i ffwrdd,” meddai eto.
“Ond mae trigolion Aberhonddu wedi bod yn brwydro, ac maen nhw wedi llwyddo i gadw’r ffrwd Gymraeg.
“Felly mae yna wastad frwydr yna. Fydd y dre byth yn dre’ sy’n hollol Gymreig, ond mae yna gymdeithas gryf iawn yna.”