Roedd penderfyniad Math Roberts i sgwennu casgliad o ddarnau er cof am ei daid, yn un “naturiol”.

Dyna ddywedodd enillydd Medal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd eleni, ar ôl cipio’r wobr am ei ddarn ‘Cwsg’ – deuawd o dri symudiad ar gyfer dau biano.

Bu farw ei daid rhai blynyddoedd yn ôl, ac ers ei farwolaeth mae’r llanc 18 blwydd oed wedi bod wrthi’n cyfansoddi, gyda’r nod o sgwennu darn i’w goffáu.

“Mae’n rhywbeth dw i wedi isio gwneud [ers tipyn], ond doeddwn i ddim yn siŵr os oedwn i’n medru cyfiawnhau gwneud o’n iawn,” meddai wrth golwg360. “Ond wedyn, gwnaeth [y darn] ddod at ei gilydd.

“Doedd o ddim yn siarad Cymraeg, ond roedd o’n hoff iawn o gerddoriaeth alaw a gwerin. Wrth i mi gychwyn meddwl am yr alawon gwerin yma … daeth yn naturiol i mi deilyngu’r gân iddo. Y syniad wedyn oedd gorffen efo gweddi… i gofio yn fwy na dim.”

Gallwch wylio fideo o’r sgwrs â Math Roberts isod…