Cerddor sy’n hanu o bentref Cwm-y-glo ger Caernarfon, ydi Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.
Mewn seremoni ar lwyfan y pafiliwn ym Maes y Sioe yn Llanelwedd heddiw, fe gafodd Math Roberts ei arwisgo â Medal y Prif Gyfansoddwr, am ei ddeuawd piano dan y teitl ‘Cwsg’.
Mae ar ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cerddoriaeth yn Rhydychen, ac mae’n wyneb cyfarwydd fel pianydd, telynor a chanwr. Fe ddaeth yn agos at gipio’r fedal hon yng Nghaerffili yn 2015.
Roedd dau ymgeisydd yn deilwng o’r Fedal, yn ôl y beirniad, Meirion Wynn Jones, sydd ei hun yn gyfeilydd, yn organydd ac yn gyfansoddwr sy’n byw yng Nghaerfyrddin.
“Mae gwaith Huwcyn (ffugenw Math Roberts) yn haeddu cael ei lwyfannu,” meddai’r beirniad wedyn am ‘Cwsg’, “ac mae’n llawn o’r emosiwn hwnnw sy’n dod o brofiad mawr fel colli rhywun… mae’n amlwg yn gyfforddus iawn ag iaith gerddorol ei hun… ac mae’n daith go iawn”.
Wyneb cyfarwydd
Dros y blynyddoedd mae Math wedi dod yn wyneb cyfarwydd mewn Eisteddfodau’r Urdd, a’r Genedlaethol.
Fe enillodd Y Rhuban Glas Offerynnol dan 19 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, ac yntau ond yn 16 oed.