Bydd modd i’r cyhoedd gyfrannu at gronfa o enwau Cymreig, mewn stondin yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Yn stondin Comisiynydd y Gymraeg, ar faes y brifwyl yn Llanelwedd, mae yna fap sydd wedi’i orchuddio ag enwau lleoedd a phinnau.
A nod y map hwn, meddai Manon Davies – Swyddog Isadeiledd ac Ymchwil y Comisiynydd – yw rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfrannu at eu gwaith.
“Be ydan ni isio iddyn nhw wneud yn y stondin ydi profi’r gronfa,” meddai wrth golwg360, “a gweld os ydi’u pentref nhw [yno]. Gorau oll os ydi’r pentref yn ganol nunlle, neu’n bentref bach.
“Y nod ydi gweld os ydyn nhw ar ein rhestr ni. Yn amlwg, mae ganddon ni’r prif lefydd i gyd, ond basa fo’n dda cael y pentrefi llai hefyd.”
Cronfa
‘Geiriadur enwau lleoedd’ yw’r gronfa, meddai, sydd yn galluogi’r cyhoedd i ddod o hyd i’r sillafiad cywir o enw tref neu bentref.
Mae yn agos 3,000 o enwau yn y gronfa, ac mi fydd yn cael ei lansio’n swyddogol ar Fehefin 20. Does gan y Comisiynydd ddim grym statudol i orfodi pobol i’w defnyddio.