Mar gitarydd o ferch yn un o fandiau mwya’ cyffrous y sîn Gymraeg yn dweud fod “mwy o waith i’w wneud” o ran faint o fenywod sy’n perfformio ym Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol.

Er bod bandiau sy’n cynnwys merched yn perfformio bob nos yn ystod prifwyl Caerdydd eleni, mae Gwenllian Anthony yn credu bod angen mwy o newid er mwyn dod â merched yn gyfartal.

Mae hi’n chwarae’r gitâr fas i’r band, Adwaith, ac yn edrych ymlaen at rannu llwyfan â bandiau merched eraill fel Cadno a Serol Serol ddechrau Awst.

“Mae yna fwy o waith i’w wneud o ran cydraddoldeb,” meddai Gwenllian Anthony wrth golwg360, “ond mae’n mynd yn y cyfeiriad cywir.

“Gobeithio, o fewn y blynydde nesa’, y byddwn ni’n cyrraedd sefyllfa deg. Dyna dw i’n gobeithio.”

Mae’n ategu bod lein-yps hanner-hanner yn “amhosib” ar hyn o bryd, a bod “angen gweld mwy o ferched yn y sîn yn gyffredinol”, ac nid yn y digwyddiadau mawr yn unig.

“Bandiau newydd”

Un peth sy’n amlwg am lein-yps eleni yw na fydd rhai o enwau mwyaf adnabyddus y Sîn Roc Gymraeg – fel Yws Gwynedd, Candelas a Swnami – yn perfformio yno.

Ond, mae Gwenllian Anthony yn croesawu hyn, gan ei fod yn rhoi cyfle i fandiau llai adnabyddus.

“Mae’n neis gweld bandiau newydd yn dod i’r brig nawr,” meddai.

“Ac mae gweld yr un lein-yp bob blwyddyn yn boring. Ond, mae wedi newid erbyn hyn.

“Mae’r bandiau newydd ifanc sy’n dod allan o Gymru yn awr yn insane! Mae’n neis eu bod nhw’n cael platfform.”