Mae lein-yps tra gwahanol wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Maes B eleni, gyda sawl band newydd gan gynnwys Los Blancos, Serol Serol a Gwilym yn perfformio am y tro cyntaf.

Ac mi fydd sawl grŵp yn llenwi’r prif slotiau am y tro cyntaf erioed – yn hytrach nag unigolion – gan ddod â’r brifwyl yn y brifddinas i ben gyda band Yr Eira nos Sadwrn.

Bydd Maes B yn cael ei gynnal rhwng Awst 8 ac Awst 11, yn adeilad Doctor Who ym Mae Caerdydd – lleoliad go wahanol i’r arfer hefyd,

Lein-yps “amrywiol”

“Mae gennym ni lein-yps cryf ac amrywiol eleni, sy’n cyfuno rhai o enwau mawr y sin gydag artistiaid mwy newydd … gan greu nosweithiau sy’n mynd i apelio at gefnogwyr yr holl fathau gwahanol o gerddoriaeth sydd yn y sin ar hyn o bryd,” meddai’r trefnydd, Guto Brychan.

“Mae Maes B yn llwyfan pwysig iawn i’r sin Gymraeg, ac yn gyfle i’r gynulleidfa glywed bandiau newydd ac amgen ar yr un lein-yp â bandiau adnabyddus, ac mae hyn yn beth iach ac yn dda iawn i’r sin.”

Bydd tocynnau ar werth o Fai 29 ymlaen, ac mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw un dros 16 oed.

Y lein-yps

Nos Fercher, Awst 8 – Band Pres Llareggub, Y Cledrau, Cadno, Gwilym

Nos Iau, Awst 9 – Yr Ods, HMS Morris, Omaloma, Serol Serol

Nos Wener, Awst 10 – Y Reu, Mellt, Chroma, Los Blancos

Nos Sadwrn, Awst 11 – Yr Eira, Cpt Smith, Adwaith, Enillwyr Brwydr y Bandiau