Mae cynhadledd a gafodd ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer pobol drawsryweddol, yn y ras am wobr.

Fe gafodd y gynhadledd undydd, All Our Trans Tommorows, ei chynnal gan y brifysgol fis Tachwedd y llynedd.

Roedd yn cynnwys areithiau a gweithdai gan academyddion ac ymgyrchwyr trawsrywedd, ac fe gafodd adnoddau eu darparu i staff ac aelodau o’r cyhoedd a oedd yn nodi’r materion sy’n wynebu pobl drawsryweddol.

Bellach, mae’r gynhadledd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobrau Adnoddau Dynol y Prifysgolion [URH), a hynny yn y categori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Diolch i’r cyfranwyr

 Yn ôl Ruth Fowler, cadeirydd grŵp cynllunio’r gynhadledd, roeddem nhw fel grŵp “wrth [eu] boddau] o fod yn gallu trefnu a chroesawu pobol i’r “gynhadledd flaengar” y llynedd.

“Mae lefel y gefnogaeth a’r adborth positif – 97% o’r mynychwyr yn sgorio’r gynhadledd yn wych neu’n dda – wedi ein galluogi i ddechrau cynllunio cynhadledd Hydref 2018,” meddai.

“Rwy’n falch iawn o waith caled y grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Brifysgol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill o Ganolbarth Cymru, a gyfrannodd at sicrhau bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen ac yn derbyn yr enwebiad hwn.”

Mi fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn ystod cynhadledd flynyddol UHR ym Mryste ar Fai 24.