Mae disgwyl y bydd miloedd o bobol yn ymweld â thre’ Wrecsam y penwythnos hwn, wrth i ŵyl FOCUS Wales gael ei chynnal yno.
Bydd dros 200 o fandiau yn ymddangos ar 20 o lwyfannau’r ŵyl, gyda’r rheiny’n dod o Gymru ac o wledydd ledled y byd.
Cafodd yr ŵyl gerddorol ei chynnal yn y dre’ yng ngogledd-ddwyrain Cymru ers 2010, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o’r diwydiant cerddorol yng Nghymru.
“Mae FOCUS Cymru yn ŵyl flynyddol aml-leoliad sy’n digwydd yn Wrecsam, gogledd Cymru, ac sy’n rhoi’r sylw ar y talentau newydd sydd gan Gymru i gynnig i’r byd,” meddai trefnwyr yr ŵyl.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys sioeau comedi, digwyddiadau celfyddydol a sesiynau ffilm, gyda’r cyfan yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y dre’.
Ymhlith y bandiau Cymraeg sy’n chwarae yno mae Adwaith, Candelas, Chroma, Cledrau a HMS Morris.
Fe ddechreuodd yr ŵyl ddoe (Mai 10), ac fe fydd yn para tan yfory.