Cafodd £3,000 ei godi neithiwr (nos Fercher, Mai 9) mewn ocsiwn er cof am y diweddar Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant.
Mae’r gronfa, a gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth y cyn-Weinidog Cymunedau a Phlant, bellach wedi codi bron i £20,000.
Dydi teulu Carl Sargeant ddim wedi cyhoeddi eto lle bydd yr arian yn mynd, ond mae golwg360 yn deall y bydd achosion da ym maes iechyd meddwl yn elwa.
Roedd yr eitemau ar werth yn yr ocsiwn yn cynnwys recordiad o Carl Sargeant yn canu ‘You Raise Me Up’ gan Westlife ar garîoci.
Roedd recordiad arall bron i 45 munud o hyd o lais y cyn Prif Weinidog, Rhodri Morgan, yn rhoi neges o gefnogaeth i’r cyn AC cyn ei ethol am y tro cyntaf yn 2003.
Ymhlith yr Aelodau Cynulliad oedd yn bresennol, roedd Jack Sargeant, a ddaeth yn Aelod Cynulliad yn lle ei dad; Rhiannon Passmore a Jenny Rathbone o’r Blaid Lafur; a’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Nick Ramsay.
Roedd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yno hefyd.