Mae carcharor 30 oed ar goll ar ôl iddo ffoi o garchar Prescoed, Brynbuga.

Does yna neb wedi gweld Lee Frost ers 10 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Mai 9), pan oedd ar Heol Mynwy, Y Fenni. Ar y pryd, roedd e’n gwisgo trowsus gwyrdd a thop glas tywyll, ac roedd ganddo ddillad eraill yn ei feddiant.

Fe’i cafwyd yn euog o niwed corfforol, niwed corfforol bwriadol a difrod troseddol ar Dachwedd 25, 2016.

Dyw e ddim wedi’i gael yn euog o droseddau rhyw, ond mae pryderon y gallai gyflawni trosedd o’r fath am nad yw bellach yn y ddalfa.

Mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Caerfyrddin ac Abertawe.